Chwilio'r Wefan
Chwilio am destun ar y wefan a chynnwys blogiau yn unig (eithrio ffotograffau.)
15 results found with an empty search
- Ei Waith - Ei Gelf Meirion Jones
Cafwyd gwledd i’r llygaid yn ogystal â sgwrs hynod ddiddorol yng nghyfarfod mis Tachwedd yng nghwmni Meirion Jones yr artist o Aberteifi. O arddangos dros 60 o’i luniau aethpwyd â ni o Bwll Cam, Aberaeron i eangderau’r paith ym Mhatagonia. Datgelodd nifer o gyfrinachau a storïau diddorol am y cymeriadau sy’n cael lle mor amlwg a phwysig yn ei waith. Braf oedd adnabod nifer o gymeriadau lleol. Esboniodd yn fanwl y broses o fraslunio mewn lleoliadau cyn mynd yn ôl i’r stiwdio i greu y gwaith gorffenedig. Drwy ei gyflwyniad arbennig daeth â chymeriadau a golygfeydd cefn gwlad Ceredigion a Gogledd Sir Benfro yn fyw i ni. Diolch iddo am sicrhau y byddant yn parhau trwy ei waith. Cawsom noson a fydd yn parhau yn y côf am amser hir. Mair Jones
- Gwobr Treftradaeth i Ysgol Gynradd Aberaeron. Llongyfarchiadau!
Mewn seremoni arbennig yn Amgueddfa’r Glannau Abertawe derbyniodd Ysgol Gynradd Aberaeron dlws a gwobr ariannol o £600 yn dilyn ei Sioe Nadolig 2024 ‘y Wal’ a oedd yn olrhain hanes yr harbwr yn Aberaeron o’i adeiladu yn 1807 hyd y gwaith diweddar gan gwmni BAM. Dyfarnwyd y wobr gan ‘Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig’ gan roi clod arbennig i allu’r disgyblion i drafod hanes yr harbwr a’r broses o greu sioe a oedd yn cynnwys holl ddisgyblion yr ysgol. Uchafbwynt arall i Hari a Moc a aeth i gynrychioli’r ysgol yn y seremoni oedd gweld ‘Y Morthwyl Mawr’ enwog o Aberaeron sydd bellach i’w weld yn yr amgueddfa. Mair Jones
- Dathliad pen-blwydd Jane Austin yn 250 oed: diwrnodau agored yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS.
Efallai y byddai gan rai aelodau o Gymdeithas Aberaeron ddiddordeb yn y digwyddiad canlynol. Dathliad pen-blwydd Jane Austin yn 250 oed: diwrnodau agored yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS Byddwn yn arddangos cyfres o gyfrolau yn ymwneud â Jane Austen. Yr eitemau a fydd yn cael eu harddangos yn cynnwys ei chopi ei hun o L’ami de l’adolescence gan Arnaud Berquin (gyda llofnod Jane ar y dudalen deitl). Byddwn yn arddangos dau gopi arall a lofnodwyd gan ei chwaer Cassandra. Yn ogystal, byddwn yn arddangos detholiad o lyfrau yr oedd Jane wedi sôn amdanynt yn ei nofelau (er enghraifft Ceciliau gan Fanny Burney a grybwyllir yn Northnanger Abbey a Persuasion ac A sentimental journey gan Laurence Sterne a grybwyllir yn Mansfield Park). Cynhelir y digwyddiadau ddydd Mawrth 16 Rhagfyr (250 mlynedd ers geni Austen) a dydd Iau 18 Rhagfyr (gan ddechrau am 10am a 2pm ar y ddau ddiwrnod). Bydd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys sgwrs fer, ac yna cyfle i edrych ar yr eitemau sy’n cael eu harddangos. Gan y byddwn yn disgwyl y bydd y digwyddiadau hyn yn brysur iawn, bydd angen archebu llefydd ymlaen llaw. (Mae prynhawn 16 Rhagfyr yn llawn yn barod.) Bydd y tair cyfrol a lofnodwyd gan Jane a Cassandra Austen yn cael eu harddangos yn Llyfrgell Llambed PCYDDS ddydd Mercher 17 Rhagfyr (10am i 12pm, 2 i 4pm). Os hoffech wybod rhagor neu archebu lle, cysylltwch â Ruth Gooding (r.gooding@uwtsd.ac.uk)
- ‘Y Wal’ - ‘Na beth oedd gwledd! Sioe Ysgol Gynradd Aberaeron.
‘Y Wal’. Dyna oedd teitl sioe Ysgol Gynradd Aberaeron eleni! Ond pa wal? Wal fawr Tsiena? Wal Berlin? Neu Wal ‘Cofio Tryweryn’? Na! Ein wal ni ein hunain yma yn Harbwr Aberaeron. Dyna beth oedd sioe. Swynwyd y gynulleidfa ar ddwy noson wrth iddynt gael eu tywys trwy’r ddwy ganrif a mwy diwethaf o hanes yr harbwr. Dechreuwyd gyda’r enwog Alban Thomas Jones Gwynne yn cyhoeddi’r siarter a arweiniodd at adeiladu’r harbwr a datblygiad Aberaeron fel tref forwrol a masnachol. Clywyd am adeiladu’r llongau mawr ac atgoffwyd ni o enwau rhai o’r llongau hynny a deithiodd i bedwar ban byd gyda bechgyn lleol ar eu bwrdd. Mae enwau’r llongau yn fyw o hyd yn enwau tai Aberaeron heddiw! Gwelwyd y dyrfa wrth yr harbwr yn ffarwelio wrth i deuluoedd lleol ymfudo i Ohio yn 1818 oherwydd gorthrwm tirfeddianwyr. Wrth gwrs mae’r cysylltiadau rhwng Aberaeron ag Ohio yn parhau hyd heddiw. Cofiwyd hefyd am bysgotwyr lleol ac yn arbennig y teulu Jenkins. Mor braf oedd cael dau o’u disgynyddion o’r Ysgol yn adrodd eu hanes. Portreadwyd taith stormus nifer o’r pysgotwyr hynny yn llawn hiwmor. Mewn golyga hynod liwgar, atgoffwyd y gynulleidfa o’r hyn sy’n denu’r tyrfodd i harbwr Aberaeron bob blwyddyn. O’r ffair ym mis Tachwedd i dynnu gelyn ar draws yr harbwr yn yr haf, i’r carnifal unigryw a Gŵyl y Mecryll i gloi’r tymor gwyliau. Trwy gyfrwng ffilm gwelwyd disgyblion y Dosbarth Meithrin yn ‘crwydro’r’ safle adeiladu ac yn holi, “Pam fod angen y morglawdd newydd arnom?” I gloi’r perfformiad, talwyd gwrogaeth i gwmni BAM am eu gwaith a’u dyfalbarhad trwy ddawns fywiog. Dyma oedd perfformiad a fydd yn dal yn y cof am amser hir a pa well ffordd o drosglwyddo hanes ein tref i’r genhedlaeth nesaf. Llongyfarchiadau i bawb a fu ynghlwm â’r sioe. Mair Jones
- Celebrating Aberaeron’s Josh Tarling: The ups & downs of a time trial cyclist
As the UK and Welsh 'Sports Personality of the Year' reviews are about to be broadcast on BBC TV it's worth sparing a thought for local cycling hero Josh Tarling. Compared to his stellar 2023 season it’s been a somewhat cruel 2024 for the professional track & road time trial specialist from Ffos-y-ffin who continues to ride for the UK-based Ineos Grenadiers team. Josh started the 2024 season well … A team pursuit victory and a 3rd place in the Madison race at the UCI Track Cycling Nations Cup at Adelaide, Australia in early February. A road time trial stage victory at the O Gran Camino (The Great Way) staged through the Galicia region of Spain in late February. A 6th place at the Dwars door Vlaanderen one-day road race on the treacherous Belgian cobblestones in late March. Another victory in the elite time trial race at the UCI National Championships in June, repeating his previous win in 2023. Sadly, for this year’s ‘higher profile’ events, lady luck has not quite been on Josh’s side despite his continuing great form. He was ... Denied at least a bronze (or a probable silver) medal in the Olympic Road Time Trial after sustaining the only puncture of the race on the rain-soaked streets of Paris. He missed out on a medal by a mere 2 seconds. A soul-destroying result for Josh as well as his family and fans. Forced to abandon after a horrible high-speed crash on stage 9 of his ‘Grand Tour’ debut in La Vuelta (the Tour of Spain) in August, after a promising 6th place finish in the stage 1 time-trial. Edged out to 4th place at the UCI Road World Championships time trial in Zurich, Switzerland. More bad luck struck Josh when he suffered broken ribs after a crash in the Tour of Croatia in early October. To add insult to injury (no pun intended) his accident resulted in him having to withdraw from the UCI Track Cycling World Championships in Denmark. That said, it has to be recognised that, despite being a mere 20 years of age, Josh is regularly mixing it with arguably the top 2 time trialists in the world, in the shape of older riders Remco Evenepoel (Belgium) and Josh’s Ineos-Grenadiers team-mate Fillipo Ganna (Italy). Josh had already previously finished in 3rd place behind this pair in the 2023 UCI World Championships time trial after a stunning performance (aged 19) which finished spectacularly on the steep cobbled ramparts of Stirling Castle in Scotland. This performance really raised Josh's public profile as it was broadcast live on mainstream UK TV. To match that, on stage 4 of the renowned the 2024 Citerium du Dauphine race in France the 34km time trial from Saint-Germain-Laval to Neulise saw Josh lead the entire field of racers by 1 second at the second time check, only to be nudged into 2nd place by the renowned Remco Evenepoel at the finish. A great performance against an elite field of competitors, this further consolidated his place in the upper echelons of world time trialists. Continuing in a positive vein, the challenges that he has faced in 2024 will surely be character-building in the long term. His disappointment after his string of narrow podium misses and crash-related abandonments was evident in his TV interviews, particularly after the 4th place in the UCI time trial in Zurich. He is clearly a driven and self-critical young man despite his incredible achievements to date at a world level, let alone the UK. This bodes well for any athlete. His potential to hit new heights has been further rubber-stamped by a 3-year contract extension to 2027 by his team, Ineos-Grenadiers. Given that Josh already has 10 years of full-time competitive cycling under his lycra there’s no knowing where he’ll be when he reaches his mid-30s, which is when many of the greats were in their prime … including a certain Geraint Thomas ;) Here's hoping that Josh continues to grow as an athlete. He’s got great support team from his father Mike (a Welsh track and road cyclist), mother Dawn and younger brother Finlay (also a professional cyclist with Israel Premier Tech Academy). Of course, it goes without saying that the residents of the Aberaeron area are all 100% behind Josh and are wishing him ‘pob lwc’ through 2025! Paris Olympics send-off for Josh at Aberaeron bakers 'Y Popty'. Left to right: Pete 'Bach' Evans, Ray 'Penmaesglas', Sian Thomas, Mike & Dawn Tarling. For anyone interested, there’s plenty of Josh-related information online: Josh's Story: https://www.britishcycling.org.uk/article/20240726-My-Story--Josh-Tarling-0 Pro Cycling Statistics: Josh & Finlay https://www.procyclingstats.com/rider/joshua-tarling/start https://www.procyclingstats.com/rider/finlay-tarling
- Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24
Braint oedd gwahodd Catrin Stevens i gyfarfod mis Hydref y Gymdeithas. Mae Catrin yn hanesydd nodedig ac yn arbenigo mewn hanes merched. Testun ei chyflwyniad oedd ‘Apêl Merched dros Heddwch 1923-24’. Mae hi a nifer o ferched blaengar yng Nghymru wedi bod yn rhan o grŵp ‘Heddwch Nain/Mam-gu’ a ddaeth at ei gilydd wedi darganfod deiseb o 1923-24. Cafwyd hanes anhygoel y ddeiseb wrth iddi gael ei darganfod mewn cist dderw yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington, a’r ymgyrch i’w chael yn ôl I Gymru. Gwireddwyd eu breuddwyd yn Rhagfyr 2022 pan gyrhaeddodd y ddeiseb (7 milltir o hyd) y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Mae arni 390,296 o lofnodion o bob rhan o Gymru ac mae’r gwaith o drawsgrifio'r holl enwau bron ar ben. Apêl yw’r ddeiseb oddi wrth ferched yng Nghymru ar i ferched America alw am ‘Gyfraith nid Rhyfel’ ac i America ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd newydd. Disgrifiodd rôl degau o unigolion lleol a fu’n ddygn yn trefnu’r ddeiseb yn eu hardaloedd drwy gerdded o dŷ i dŷ. Bu'r rhain mor hanfodol i’r ymgyrch. Dangoswyd i ni enwau a llofnodion unigolion o Aberaeron a’r cyffiniau a fu’n trefnu a llofnodi'r ddeiseb. Creodd hyn gynwrf arbennig ymhlith y gynulleidfa. Gallwch ddarllen mwy am yr hanes diddorol hwn ar- https://www.wcia.org.uk/cy/treftadaeth-heddwch/deiseb-menywod Diolch, Mair Jones
- Cymdeithas Aberaeron Society: Y Wibdaith Flynyddol
Cyflwynwyd ar ran Barbara Roberts, Aberaeron. Does dim rhaid mynd ymhell i weld rhyfeddodau. Maent ar ein stepen drws ond yn aml rydym yn eu hanwybyddu ac yn chwilio am fan gwyn fan draw. Tro yma aethom mor bell ag Aberystwyth i Amgueddfa Ceredigion sy’n llawn o bethau difyr yn adlewyrchu bywyd unigryw ein hardal; ei diwydiannau a’i ddiwylliant. A thu ôl i bob gwrthrych mae stori: Merched Beca, Ymfudo, Smyglwyr, Mordwyo, y Beirdd, y Dirwedd, Ffermio... Roedd ‘na thlodi mawr ond roedd hefyd dyfeisgarwch a doniau, sgiliau a chrefftau, mewn oes pan roedd rhaid bod yn hunangynhaliol. Roedd cwestiynau i’w hateb: Pryd adeiladwyd yr adeilad? Gan bwy? Pam? Tynnwyd sylw hefyd at yr arddangosfa o’r Amgueddfa Brydeinig a gwaith chwech o artistiaid lleol, y Mwyafrif Byd-eang yn datgan eu hymateb i ‘r Ymerodraeth. Ac wedyn roedd te yn y caffi. Diwrnod i'w gofio. Barbara
- Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron: Diweddariad BAM
Roedd CAS yn falch iawn o groesawu diweddariad ynghylch Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron gan gynrychiolydd lleol BAM, Gwen Clements, ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neithiwr. Yn ôl y disgwyl, roedd digon o ryngweithio holi-ac-ateb bywiog oddi wrth y gynulleidfa trwy’r cyflwyniad, yn enwedig yng ngoleuni’r stormydd diweddar, y llanw uchel a’r gefnogaeth ragorol gan gontractwyr BAM a busnesau lleol i drigolion Pen Cei. Diolch yn fawr i Gwen am ateb yr ystod eang o gwestiynau ac am gadarnhau y cwmpas gwaith o fewn cytundeb BAM. Daeth maint estyniad 250m Pier y Gogledd a’r rhodfa ganolog ar hyd yr asgwrn cefn yn amlwg o’r ddelwedd efelychiedig isod (o BAM). Heb fod yn sicr os mai twll par 3 neu par 4 yw....efallai y bydd yn amrywio gyda'r llanw! Dangoswyd collage o luniau hanesyddol o'r harbwr o archif CAS hefyd gan Gwen. Bydd hwn yn cael ei drosglwyddo i Elizabeth Evans o Gyngor Tref Aberaeron i benderfynu lleoliad addas i'w arddangos yn y dref. Roedd fersiynau dwyieithog o gylchlythyrau BAM hefyd ar gael (mae fersiynau Ch1 a Ch2 wedi'u hatodi er gwybodaeth). Mae rhain yn cynnwys cwestiynau cyffredinol, gwaith sydd i ddod, mesurau rheoli traffig, erthyglau a lluniau. Diolch eto i Gwen ac i bawb a fynychodd ac a gymerodd ran.
- Parêd Dydd Gwyl Dewi
Dyma ddetholiad o ffotograffau o orymdaith Gŵyl Dewi Ysgol Gynradd Aberaeron ers yr wythdegau cynnar. Mae’r digwyddiad yn un pwysig yng nghalendr blynyddol Aberaeron, ac sy’n dal i ddenu tyrfa luosog i’r dre bob mis Mawrth. Erbyn hyn mae nifer o drefi ar draws Cymru yn cynnal parêd, ond credir mai Aberaeron oedd y cyntaf! https://www.facebook.com/share/v/Ty8qGmJFkAfEqScT/?mibextid=KsPBc6
- Cranogwen
Mae Cranogwen ers blynyddoedd wedi bod yn arwres Gymreig anenwog. Mae yr awdures Jane Aaron yn gwneud llawer i wrthdroi hyn yn ei llyfr yn dwyn yr un enw a gyhoeddwyd yn 2023. Cawsom y fraint o wrando ar ei chyflwyniad yn Gymraeg yn ein cyfarfod mis Chwefror. Mae’r ddelwedd drawiadol ar glawr y llyfr o Cranogwen, yn ei phentref genedigol Llangrannog, gan yr artist lleol, Meinir Mathias. Gweler erthygl oddi tano gan Jane yn crynhoi bywyd anhygoel Cranogwen, neu Sarah Jane Rees, i roi iddi ei henw bedydd.
- Mair Rees: Atgofion Teulu Castell y Geifr (2011) (Cymraeg)
Yn seiliedig ar gyfweliad â Mair Rees, Castell y Geifr, Mehefin 2011. Yn ystod y 1920au roedd fy nhad-cu a mam-gu, Jos a Lil Rees, yn ffermio yn y Rhondda. Ar ôl y dirwasgiad cawsant gyfle i rentu Fferm Castell y Geifr yn Llanarth ac yn 1927 dyma nhw’n deithio yno ar gefn motor-beic gyda ‘sidecar’ a dilynodd y dodrefn, yr ieir, y ci a fy hen dad-cu a mam-gu mewn lori a chanddi teiars rwber soled. Ar y pryd roedd fy nhad yn 17 mlwydd oed a theithiodd ef i Aberaeron ar y trên: Nid yn unig oedd rhaid iddo edrych ar ôl ei frodyr a chwiorydd iau ar hyd y daith ond ef hefyd oedd yn gyfrifol am gludo’r anifeiliaid, ceffylau, gwartheg a moch ar y daith a barodd 17 awr. Ar ôl cyrraedd Aberaeron rhoddodd y stesionfeistr gyfarwyddiadau i’r plant ac bu rhaid iddynt gerdded gyda’r anifeilaidd yr holl ffordd i Gastell y Geifr. Ar hyd y ffordd daeth pobl allan i’w cyfarch a’u croesawu i’r ardal. Roedd pawb i weld yn gwybod pwy oeddent a ble roddent yn mynd. Yn rhyfedd, roedd Fferm Castell y Geifr yn wag ar gyfer fy nhad-cu a mam-gu am fod y tenantiaid blaenorol wedi symud i Aberaeron. Roedd Tom Lloyd Evans, y tenant blaenorol, yn ffermio moch ac yn allforio bacwn i Dde Cymru. Pan ddaeth y rheilffordd i Aberaeron, gwelodd Mr Evans ei gyfle a symudodd i Fferm Pengarreg a sefydlu busnes tebyg yno, gan ddefnyddio’r rheilffordd i gludo bacwn i drefi De Cymru. Roedd gan fy nhad stori ddoniol am y rheilffordd yn y 1940au. Roedd fy nhad ar bwyllgor rheoli y Co-op ac un diwrnod roedd angen lifft ar Jack Jones, rheolwr y siop, i deithio i Aberaeron er mwyn dal y trên i fynd i gyfarfod pwysig. Yn anffodus roedd y trên wedi gadael pan gyraeddasant y Stesion a dyma’r Stesionfeistr heb oedi yn ffonio stesion Ciliau Aeron ac o fewn ychydig o funudau roedd y trên wedi dychwelyd i Aberaeron er mwyn codi Jack Jones.
- Pendinas (Cymraeg)
Bryngaer Pendinas: Prosiect Partneriaeth ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).












