Rhufain, y Ddinas Dragwyddol: Diwrnod agored yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS
- Cymdeithas Aberaeron Society

- 5 days ago
- 1 min read
Efallai y bydd gan rai aelodau o Gymdeithas Aberaeron ddiddordeb yn y digwyddiad canlynol.
Rhufain, y Ddinas Dragwyddol: Diwrnod agored yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS
Byddwn yn arddangos amrywiaeth o lyfrau sy’n gysylltiedig â Rhufain, y ddinas dragwyddol a dinas hanes gweladwy. Byddant yn cynnwys Le antichità romane arbennig Giambattista Piranesi, yn ogystal â sampl o gyfrolau eraill wedi’u hanelu at Dwristiaid Crand yn 17eg, 18fed a 19eg canrifoedd. Byddwn hefyd yn arddangos Views in Rome and its environs, llyfr deithio Edward Lear, y bardd nonsens.
Cynhelir y digwyddiad ddwywaith ddydd Mercher 18 Chwefror am 10am a 2pm, yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS yn Llambed. Fe fydd yn dechrau gyda sgwrs fer, ac yna cyfle i archwilio'r cyfrolau a fydd yn cael eu harddangos.

Os hoffech wybod rhagor neu gadw lle, cysylltwch â Ruth Gooding (r.gooding@uwtsd.ac.uk)


Comments