Gwobr Treftradaeth i Ysgol Gynradd Aberaeron. Llongyfarchiadau!
- Cymdeithas Aberaeron Society
- Jul 5
- 1 min read
Mewn seremoni arbennig yn Amgueddfa’r Glannau Abertawe derbyniodd Ysgol Gynradd Aberaeron dlws a gwobr ariannol o £600 yn dilyn ei Sioe Nadolig 2024 ‘y Wal’ a oedd yn olrhain hanes yr harbwr yn Aberaeron o’i adeiladu yn 1807 hyd y gwaith diweddar gan gwmni BAM.

Dyfarnwyd y wobr gan ‘Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig’ gan roi clod arbennig i allu’r disgyblion i drafod hanes yr harbwr a’r broses o greu sioe a oedd yn cynnwys holl ddisgyblion yr ysgol.

Uchafbwynt arall i Hari a Moc a aeth i gynrychioli’r ysgol yn y seremoni oedd gweld ‘Y Morthwyl Mawr’ enwog o Aberaeron sydd bellach i’w weld yn yr amgueddfa.
Mair Jones
Comments