top of page

Chwilio'r Wefan

Chwilio am destun ar y wefan a chynnwys blogiau yn unig (eithrio ffotograffau.)

22 items found for ""

Blog Posts (8)

  • Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron: Diweddariad BAM

    Roedd CAS yn falch iawn o groesawu diweddariad ynghylch Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron gan gynrychiolydd lleol BAM, Gwen Clements, ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neithiwr. Yn ôl y disgwyl, roedd digon o ryngweithio holi-ac-ateb bywiog oddi wrth y gynulleidfa trwy’r cyflwyniad, yn enwedig yng ngoleuni’r stormydd diweddar, y llanw uchel a’r gefnogaeth ragorol gan gontractwyr BAM a busnesau lleol i drigolion Pen Cei. Diolch yn fawr i Gwen am ateb yr ystod eang o gwestiynau ac am gadarnhau y cwmpas gwaith o fewn cytundeb BAM. Daeth maint estyniad 250m Pier y Gogledd a’r rhodfa ganolog ar hyd yr asgwrn cefn yn amlwg o’r ddelwedd efelychiedig isod (o BAM). Heb fod yn sicr os mai twll par 3 neu par 4 yw....efallai y bydd yn amrywio gyda'r llanw! Dangoswyd collage o luniau hanesyddol o'r harbwr o archif CAS hefyd gan Gwen. Bydd hwn yn cael ei drosglwyddo i Elizabeth Evans o Gyngor Tref Aberaeron i benderfynu lleoliad addas i'w arddangos yn y dref. Roedd fersiynau dwyieithog o gylchlythyrau BAM hefyd ar gael (mae fersiynau Ch1 a Ch2 wedi'u hatodi er gwybodaeth). Mae rhain yn cynnwys cwestiynau cyffredinol, gwaith sydd i ddod, mesurau rheoli traffig, erthyglau a lluniau. Diolch eto i Gwen ac i bawb a fynychodd ac a gymerodd ran.

  • Parêd Dydd Gwyl Dewi

    Dyma ddetholiad o ffotograffau o orymdaith Gŵyl Dewi Ysgol Gynradd Aberaeron ers yr wythdegau cynnar. Mae’r digwyddiad yn un pwysig yng nghalendr blynyddol Aberaeron, ac sy’n dal i ddenu tyrfa luosog i’r dre bob mis Mawrth. Erbyn hyn mae nifer o drefi ar draws Cymru yn cynnal parêd, ond credir mai Aberaeron oedd y cyntaf! https://www.facebook.com/share/v/Ty8qGmJFkAfEqScT/?mibextid=KsPBc6

  • Cranogwen

    Mae Cranogwen ers blynyddoedd wedi bod yn arwres Gymreig anenwog. Mae yr awdures Jane Aaron yn gwneud llawer i wrthdroi hyn yn ei llyfr yn dwyn yr un enw a gyhoeddwyd yn 2023. Cawsom y fraint o wrando ar ei chyflwyniad yn Gymraeg yn ein cyfarfod mis Chwefror. Mae’r ddelwedd drawiadol ar glawr y llyfr o Cranogwen, yn ei phentref genedigol Llangrannog, gan yr artist lleol, Meinir Mathias. Gweler erthygl oddi tano gan Jane yn crynhoi bywyd anhygoel Cranogwen, neu Sarah Jane Rees, i roi iddi ei henw bedydd.

View All

Other Pages (14)

  • Chwilio'r Archif | Cymdeithas

    Chwiliad Archif Hysbysiad Hawlfraint Chwilio Disgrifiad Delwedd / Flwyddyn 2574 Cymorth Llywio

  • Orielau wedi'u Curadu | Cymdeithas

    Orielau wedi'u Curadu Dewiswch yn ôl Categori ANIMALS & FARMING BEACH & SEAFRONT BICENTENARY CARNIVAL COMMERCE COMMUNITY HOSPITAL LANDSCAPE MAPS & DOCUMENTS PEOPLE PERFORMANCES PLACES OF WORSHIP POSTCARDS RIVERS & BRIDGES SCHOOL SHIPS & HARBOUR SPORTS TOWN TRANSPORT Cymorth Llywio Hysbysiad Hawlfraint 1800s 1900s 2000s UNDATED 2574 Dewiswch yn ôl Cyfnod

  • Gweithgareddau | Cymdeithas

    Gweithgareddau Sgyrsiau Cynigir rhaglen o sgyrsiau amrywiol yn ystod tymor 2023-24. Cynhelir y cyfarfodydd yn Festri Capel Tabernacl. ​ Dydd Mawrth, Medi 19 am 7.30 y.h. Michael Freeman: Ann Evans, Plas y Dolau 1738-1807 – Ffermwr Gorau’r Sir. Dydd Mawrth Hydref 17 am 7.30 y.h. Natalie Chapman: George Chapman – Golwg Bersonol. Dydd Mawrth Tachwedd 21 am 7.30 y.h. Dr. James January McCann (RCAHMW) : Enwau Hanesyddol Cymru. Dydd Mawrth Ionawr 16 am 7.30 y.h. Ken Murphy, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed: Prif Ganolfan yr Oes Haearn yng Nghanolbarth Cymru: Cloddio archeolegol diweddar yng Nghaer Pendinas. Dydd Mawrth Chwefror 20 am 7.30 y.h. Jane Aaron: Cranogwen (Darlith Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.) Dydd Mawrth Mawrth 19 am 7.30 y.h. Siân Stewart: Bensha a’i ferched: Preswylwyr Hynod Portland Place, Aberaeron. Rhan 1. ​ Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2024, 6.00 y.h. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i'w ddilyn gan sgwrs am 7.30pm ar waith amddiffyn yr arfordir yn Aberaeron gan y contractwyr, BAM. Gwibdeithiau Yn Hydref 2023 aethpwyd i Blas Nanteos ger Aberystwyth. Bu’r plas yma o’r 18fed ganrif yn gartref i’r teulu Powell ac yn fwyaf enwog am mai yma y cadwyd Cwpan Nanteos a adnabyddir fel y greal sanctaidd. Ceir manylion o’r ymweliad nesaf yn fuan. Ciniawa Eleni, fe fydd amrywiaeth o brydiau amser cinio a gyda’r nos wedi eu trefnu yn garedig gan Margaret Bevan. ​ • Dydd Iau, 28 Medi 2023: Gwesty'r Plu 7pm • Dydd Llun, 13 Tachwedd 2023: The Hive 12.30pm • Dydd Gwener, 8 Rhagfyr 2023: Tyr Harbwrfeistr 12.30pm • Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024 :Y Seler 12.30pm • Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2024: The Hive 2.30pm • Dydd Iau, 11 Ebrill 2024: Yr Harbwrfeistr 7pm ​ Dosberthir bwydlenni a phrisiau i aelodau cyn pob dyddiad.

View All
bottom of page