
Gweithgareddau

Sgyrsiau 2026-27
Dyma ein rhaglen lawn o sgyrsiau Tymor y Gaeaf 2026-27.
Mae’r holl sgyrsiau yn cael eu cynnal yn Festri Capel Tabernacl, Stryd Tabernacl, Aberaeron, SA46 0BN, gan gychwyn am 7.30 y.h. yn brydlon (drysau yn agor am 7 y.h.).
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer y ddwy sgwrs Gymraeg:
Dydd Mawrth Medi 8fed 2026
Siân Stewart a SE Morgan: Trigolion anhygoel Portland House, Rhan 3 - Phyllis Sewell yn ogystal â lawsiad eu cyfrol: ‘The House that Bensha Built.’
Dydd Mawrth Hydref 20fed 2026
Meinir Mathias: Ei gwaith, ei chelf (Sgwrs Gymraeg gyda chyfiethu ar y pryd.)
Dydd Mawrth Tachwedd 17eg 2026
Dai Gatehouse a Iestyn Thomas: ChallengeAid Africa: Trawsnewid bywydau plant difreintiedig yn slymiau Kenya a Thansanïa.
Dydd Mawrth Ionawr 19eg 2027
Yr Athro James Medhurst: Gwas i ddwy dafod. Hanes ITV yng Nghymru.
Dydd Mawrth Chwefror 16eg 2027
Dylan Iorwerth: O Neuaddlwyd i Fadagascar (Sgwrs Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd)
Dydd Mawrth, Mawrth 16eg 2027
Lindsey Davies: Aberaeron yn y papurau newydd 1804 hyd 1919.
Dydd Mawrth, Ebrill 20fed 2027
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Ciniawa
Gweithgaredd poblogaidd gyda’r haelodau, sef cymysgedd o brydiau amser cinio a gyda’r nos rhwng Medi a Ebrill. Diolch i Margaret Bevan am drefnu.
Gweler y dyddiadau ar gyfer tymor 2026-27:
Dydd Mercher Medi 30ain 2026, (19.00):
The Stubborn Duckling
Dydd Gwener, 6 Tachwedd 2026 (12.30):
The Hive
Dydd Iau, 3 Rhagfyr, 2026 (12.30):
Yr Harbwrfeistr - Cinio Nadolig
Dydd Gwener, 29 Ionawr, 2027 (12.30):
Y Seler
Dydd Llun, 10 Mawrth, 2027 (12.30):
Gwesty’r Plu
Dydd Gwener, 16 Ebrill, 2027 (19.00):
Yr Harbwrfeistr
Bydd y bwydlenni a phrisau yn cael eu dosbarthu cyn pob dyddiad.


Gwibdeithiau
Yn dilyn eich cais chi, ein haelodau rydym yn osgoi teithiau hir ac yn cadw’r teithiau’n lleol.
Ein taith nesaf i’r holl aelodau yw i agoriad arddangosfa:
5 - 7y.h. 31ain Orffennaf 2026:
Atgofion Gwehyddu o Longddrylliadau Ceredigion gan Vicky Ellis, aelod o CAS yn Llanerchaeron.
Bydd Sandra yn dosbarthu manylion a dyddiadau o ymweliadau lleol yn fuan.
