top of page
Vintage Pebbles.jpg

Stori Aberaeron Story

Beth yw hi?

Pwrpas prosiect ‘Stori Aberaeron’ yw i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth Aberaeron mewn modd hawdd a gweledol i breswylwyr ac ymwelwyr. Cynhyrchwyd  ffilm a gȇm, crëwyd mosäig, argraffwyd casgliadau o ffotograffau gan roi mynediad i’n harchif o hanes lleol i bawb..

TIA Mosaic_edited.jpg
game-houses.jpg

Ble gellir ei weld?

Mae rhan o’r casgliad i’w weld mewn cwpwrdd arddangos yng nghyntedd Neuadd y Sir, Stryd y Farchnad. Mae gennym hefyd gornel hanes lleol yn y llyfrgell gyda sgrin wedi ei neilltuo i ddangos ystod o atgofion, storïau a hanesion a gasglwyd gan drigolion lleol. Yn y gysgodfa gyhoeddus ar lan yr afon mae yna fosäig a grëwyd  gan ieuenctid a thrigolion hŷn lleol sy’n darlunio treftadaeth pysgota a diwydiannol y dref. Tu allan i Driftwood Designs ar yr harbwr gwelir mosäig arall sy’n nofio drwy hanes ein tref. Cynlluniwyd hwn gan Clare Pod gyda chymorth y gymuned.
 

Mae’n drist bod cyfran helaeth bellach yn ddigartref. Cyn cau'r Ganolfan Wybodaeth Dwristiaeth yn 2021, roedd yna Fainc Dreftadaeth yno wedi ei haddurno gan Lizzie Spikes. Roedd iddi sgrin ryngweithiol a roddai fynediad i adnoddau gwefan Cymdeithas Aberaeron yn cynnwys ffotograffau o longau a adeiladwyd yn Aberaeron a ffilm a gomisiynwyd o hanes y dref gan Gwmni Wȇs Glei. Roedd yno hefyd gȇm addas i bawb yn seiliedig ar gynllun unigryw'r dref. Mae bellach mewn storfa, ond gobeithio y gellir dod o hyd i gartref parhaol iddi yn Neuadd y Sir yn fuan.

mosaic-fish.jpg
shelter-mosaic.jpg
Sut y’i hariannwyd?

Ariannwyd y prosiect gan grantiau amrywiol. Derbyniwyd £46,400 o Gynllun Treftadaeth y Loteri Genedlaethol - ‘Ein Treftadaeth’, £6,000 o Gynllun Nawdd Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion a chyfraniadau o £500 oddi wrth Gyngor Tref Aberaeron  a £4974 oddi wrth y Gymdeithas.
 

Rheolwyd y prosiect gan Virginia Lowe a Rosemary Phillips ar ran Cymdeithas Aberaeron Society.

bottom of page