Ei Waith - Ei Gelf Meirion Jones
- Cymdeithas Aberaeron Society

- Dec 5
- 1 min read
Cafwyd gwledd i’r llygaid yn ogystal â sgwrs hynod ddiddorol yng nghyfarfod mis Tachwedd yng nghwmni Meirion Jones yr artist o Aberteifi.
O arddangos dros 60 o’i luniau aethpwyd â ni o Bwll Cam, Aberaeron i eangderau’r paith ym Mhatagonia. Datgelodd nifer o gyfrinachau a storïau diddorol am y cymeriadau sy’n cael lle mor amlwg a phwysig yn ei waith. Braf oedd adnabod nifer o gymeriadau lleol.

Esboniodd yn fanwl y broses o fraslunio mewn lleoliadau cyn mynd yn ôl i’r stiwdio i greu y gwaith gorffenedig.
Drwy ei gyflwyniad arbennig daeth â chymeriadau a golygfeydd cefn gwlad Ceredigion a Gogledd Sir Benfro yn fyw i ni. Diolch iddo am sicrhau y byddant yn parhau trwy ei waith.
Cawsom noson a fydd yn parhau yn y côf am amser hir.
Mair Jones




Comments