Yn seiliedig ar gyfweliad gyda Mrs Doris Jones, Mehefin 2011.
Treuliais fy mhlentyndod yn ystod y 1930au ym Mhenparc a safai tu allan i Aberaeron i gyfeiriad Neuaddlwyd ac yn agos i’r afon Aeron a’r rheilffordd. Roedd fy nhair chwaer a minnau’n amseru’n symudiadau wrth ddyfodiad y trên. Collais fy mam yn ifanc iawn a roedd fy nhad yn gadael y tŷ am 5.30 y bore i seiclo i’w waith yng Nghapel y Groes (heb fod yn bell o Gribyn). Ei gyfarwyddyd i ni’r merched oedd i godi am 7.30 pan fyddem yn clywed y trên yn cyrraedd y groesfan, a dyna beth fyddem yn ei wneud bob bore.
Mae gennyf nifer o atgofion o garedigrwydd criw y trên i ni’r plant. Un diwrnod roedd fy chwaer ieuengaf a minnau wedi mynd i hel mwyar duon ar bwys Wig Wen ac wrth chwarae roeddwn wedi rhoi sudd y mwyar o’m dwylo ar wyneb fy chwaer nes iddi edrych fel petai’n waed i gyd. Dyma’r trên yn cyrraedd a Williams y gard yn sylwi ar gyflwr fy chwaer. Ar unwaith fe stopiodd y trên a dod draw atom yn syth i sicrhau ei bod yn iawn! Yn aml byddwn yn dod adref o’r dref wedi fy llwytho ar ôl siopa a byddai Oswyn Evans bob amser yn stopio’r trên wrth y groesfan ar bwys y tŷ fel nad oeddwn yn gorfod cerdded o Holt Neuadd-Lwyd..
Roedd gennym berthynas a alwem yn Wncwl Dafydd, er nad oedd yn ewythr go iawn. Roedd Wncwl Dafydd yn archwilydd ar y rheilffordd a byddai’n dod weithiau yn rhinwedd ei swydd i Aberaeron. Byddai bob amser yn ysgrifennu i roi gwybod i ni a byddem yn cwrdd ag ef ar Holt Neuaddlwyd ac yn ddi-ffael fe roddai hanner coron yr un i’r pedair ohonom – swm anghyffredin o hael ar y pryd!
Pan fyddai priodas yn digwydd yng Nghapel Neuaddlwyd, a bod y trên yn mynd heibio, byddai chwiban y trên i’w glywed a byddai’r chwibanu yn para am tua milltir heibio’r Capel. Digwyddodd hyn ar gyfer fy mhriodas i ac ar gyfer fy chwiorydd.
Rwy’n cofio un damwain angheuol yn y 1950au. Roedd dyn a oedd yn adnabyddus i bawb fel Jim Llain yn crwydro ar hyd y lein fel y gwnâi yn aml rhwng Bryn pithyll a Llety Siôn. Roedd yn fud ac yn fyddar ac felly ni synhwyrodd fod y trên yn dod tuag ato ac yn anffodus methodd y gyrrwr stopio mewn pryd.
Roeddem hefyd yn defnyddio’r bysiau rhwng Aberaeron a Llanbedr. Rwy’n cofio’n direidi ni fel plant yn procio un condyctor yn arbennig am ei fod mor ddiamynedd gyda ni. John poenus fyddem yn ei alw – gwell peidio rhoi ei enw iawn – ond byddem yn cael sbort trwy ddweud wrtho ein bod am fynd i Grey Hall yn lle Neuaddlwyd neu Black Gate, yn lle Clwyd Ddu. Rwy’n cofio hefyd adeg pan oedd Doreen, y ferch, yn teithio ar ei phen ei hunan i’r ysgol gynradd yn Aberaeron. Nid oedd ond tua pum mlwydd oed pan aeth un
diwrnod ar y bws anghywir. Wrth i’r bws droi am Aberystwyth dyma Doreen yn sylweddoli ei chamgymeriad ac ar unwaith fe stopiodd y bws ac aros nes i’r conductor sicrhau ein bod yn ddiogel ar fws Llambed!
Yorumlar